Yn enedigol o Bont-rhyd-y-bont, fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd y Fali, Ysgol Uwchradd Caergybi a Choleg Cartrefle Wrecsam, lle enillodd ddiploma ALCM

Wedi gyrfa ym myd addysg fel Pennaeth Cerdd yn Ysgol Gyfun Llangefni am bymtheg mlynedd, mae bellach yn gerddor llawrydd ac yn gweithio i Wasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn ac elusen dementia 'Forget me not'. Ers dros ddeugain mlynedd, mae hi hefyd yn dysgu llais a phiano yn breifat ac yn ymfalchïo yn llwyddiannau ei disgyblion yn genedlaethol.

Mae ei diddordebau yn cynnwys cyfansoddi caneuon i blant, ac mae'n hynod falch fod pedair o'r caneuon a gyd-gyfansoddodd gyda'i ffrind Delyth Wyn Jones wedi cael eu cynnwys yn nhestunau prifwyl yr Urdd eleni.