I rai ar y daith dyfodol Cymru oedd yn bwysig.
"Byddwn i'n buddsoddi mwy i annog ailgylchu… hefyd mae nifer o wledydd tramor yn lanach na Chymru," meddai Zainab o Gaerdydd.
I rai, roedd y darlun yn ymestyn ymhellach - o gyllid cenedlaethol i bwerau'r Senedd ac annibyniaeth.
"Os o'n i'n Brif Weinidog, byddwn i'n gweithio tuag at sicrhau mwy o annibyniaeth i Gymru gan drosglwyddo mwy o bwerau i'r Senedd," meddai Gruffydd o Gaerdydd.
Er bod y syniadau'n amrywio'n eang yr hyn a ddaeth i'r amlwg ar y daith oedd ymdeimlad cryf o fod yn berchen ar Gymru.
Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai.