Ffynhonnell y llun,
Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bu George North yn chwarae i'r Scarlets, Northampton Saints, y Gweilch a Provence
Cyhoeddwyd
19 munud yn ôl
Mae George North, 34, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor.
Roedd y gŵr o Fôn eisoes wedi ymddeol o chwarae i Gymru ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2024, wrth iddo symud i glwb Provence yn Ffrainc.
Enillodd 121 o gapiau dros Gymru, gan sgorio 47 cais.
Yn ffefryn ymysg cefnogwyr Cymru, bu hefyd yn chwarae i'r Scarlets, Northampton Saints a'r Gweilch yn ystod ei yrfa.
Gwnaeth North y cyhoeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud ei bod hi'r amser iawn i ymddeol, a'i fod wedi llwyddo i fyw ei freuddwyd am nifer o dymhorau.
Diolchodd am y gefnogaeth gan ei deulu, ei ffrindiau a'i gefnogwyr, sydd wedi "golygu'r byd i mi", gan ychwanegu ei fod yn "edrych ymlaen at y bennod nesaf".
Dilynwch Cymru Fyw ar
Facebook
,
dolen allanol
,
X
,
dolen allanol
,
Instagram
,
dolen allanol
neu
TikTok
,
dolen allanol
.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i
cymrufyw@bbc.co.uk
,
dolen allanol
neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap
am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Rygbi
Chwaraeon
Straeon perthnasol
George North i ymddeol o rygbi rhyngwladol
Cyhoeddwyd
13 Mawrth 2024
George North: Ei yrfa mewn lluniau
Cyhoeddwyd
13 Mawrth 2024
George North: Yr asgellwr oedd yn edrych fel rheng ôl. Fideo, 00:00:50
George North: Yr asgellwr oedd yn edrych fel rheng ôl
Cyhoeddwyd
14 Mawrth 2024