Ffynhonnell y llun,
Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,
Yr enillwyr - Gweni, Llew a Sofia
Cyhoeddwyd
21 munud yn ôl
Mae'r cyflwynydd Aled Hughes
wedi cyhoeddi enwau'r tri awdur ifanc
sydd wedi dod yn fuddugol yn ei gystadleuaeth ysgrifennu stori ar BBC Radio Cymru.
Mae'r artistiaid Bethan Mai, Sian Angharad a Lleucu Gwenllian wedi creu cloriau ar gyfer straeon y tri enillydd sef Gweni o Ysgol Pentrefoelas, Llew o Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth, a Sofia o Ysgol Glantaf.
Beirniad y gystadleuaeth i flynyddoedd dau, tri a phedwar oedd Bardd Plant Cymru, Siôn Tomos Owen. Siôn hefyd gafodd y fraint o feirniadu'r gystadleuaeth i flynyddoedd pump a chwech.
Am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth, roedd cyfle i blant uwchradd gystadlu eleni.
Yn ôl beirniad y gystadleuaeth honno i flynyddoedd saith, wyth a naw sef yr awdures Anni Llŷn, "roedd y safon yn uchel iawn, ac roedd yn ddifyr darllen amrywiaeth o straeon gyda dychymyg a chreadigrwydd".
Fe wnaeth y ddau feirniad ddewis brawddegau agoriadol y straeon eleni, gan ofyn i'r cystadleuwyr ddefnyddio eu dychymyg i orffen y stori.
Mae Siôn ac Anni'n llongyfarch pob awdur wnaeth ysgrifennu stori ar gyfer cystadleuaeth "o safon uchel iawn" ac yn annog pob un awdur i barhau i ysgrifennu.
Cliciwch i ddarllen y straeon buddugol:
Y Peth gan Gweni
Ffynhonnell y llun,
Bethan Mai
Y Peth gan Llew
Ffynhonnell y llun,
Sian Angharad
Y Gyfrinach gan Sofia
Ffynhonnell y llun,
Lleucu Gwenllian
Dilynwch Cymru Fyw ar
Facebook
,
dolen allanol
,
X
,
dolen allanol
,
Instagram
,
dolen allanol
neu
TikTok
,
dolen allanol
.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i
cymrufyw@bbc.co.uk
,
dolen allanol
neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap
am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
BBC Radio Cymru
Llenyddiaeth
Gwrandewch ar Gweni, Llew a Sofia yn sgwrsio gyda Aled Hughes:
Gweni o Ysgol Pentrefoelas - enillydd Blwyddyn 2, 3 a 4 - Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes
Llew o Ysgol Gymraeg Aberystwyth - enillydd blwyddyn 5 a 6 - Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes
Sofia o Ysgol Glantaf - enillydd uwchradd cyntaf - Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes
Straeon buddugol awduron ifanc Radio Cymru