Mae AS o Gymru wedi'i gyhuddo o ddwyn syniad a oedd yn awgrymu y dylid mynd â pheiriannau anadlu segur o ysbyty yng Nghymru dramor.

Mae'r cyn-heddwas, Steve Eccleshall, yn dweud iddo ysgrifennu at yr AS Llafur, Steve Witherden, yn gofyn am gymorth i ryddhau 40 o'r teclynnau segur o Ysbyty Maelor Wrecsam er mwyn eu gyrru i Wcráin.

Ond mewn llythyr dridiau ar ôl i Mr Eccleshall ofyn am help mae'n ymddangos bod Witherden ei hun yn gwneud cais tebyg - ond yn lle Wcráin mae'r AS asgell chwith yn gwneud cais i'r peiriannau anadlu fynd i Cuba.

Mae rhannau helaeth o'r ddau lythyr yn gwneud yr un pwyntiau ac mae Steve Eccleshall yn cyhuddo Mr Witherden o ddwyn ei syniad.

Mae Steve Witherden, AS Llafur Maldwyn a Glyndŵr, wedi cael cais i ymateb.