Dros y misoedd diwethaf mae Gruffydd wedi bod yn ymchwilio'n fanwl i hanes y streic ac mae'r hanes wedi bod yn agoriad llygaid.

"Ro'n i'n fy arddegau cynnar yn 2001 ac yn byw yng Nghaerdydd felly dwi'n cofio peth sôn amdano yn enwedig gan fod fy nheulu i'n dod o'r gogledd ond ddim mwy na hynny.

"Dwi wedi bod yn gwylio archif newyddion o'r cyfnod; gweld fel roedd pobl yn gyrru heibio ac yn beepio cyrn eu ceir i ddangos eu cefnogaeth, a phan aeth miloedd i'r maes yng Nghaernarfon i gefnogi'r streicwyr.

"Roeddan ni'n ffilmio y tu allan i safle ffatri Ferodo y diwrnod o'r blaen ac yn sefyll lle roedd y streicwyr yn sefyll.

"Mi oedd yna geir dal yn canu eu cyrn wrth fynd heibio; o bosib yn cofio fel oedd y bobl yn sefyll tu allan neu o bosib isio dangos eu cefnogaeth at y cynhyrchiad.

"Roedd o'n brofiad reit swreal cael sefyll yn lle roedd Gerald a'i gyd-streicwyr yn sefyll a bod pobl yn dal i ganu cyrn i ddangos cefnogaeth."