Ffynhonnell y llun,
Ifan Jones Evans
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cyflwynydd Ifan Jones Evans, sy'n byw ym Mhontrhydygroes ger Cwm Ystwyth, yn dweud bod y "mwg yn flanced dros y pentre'"
Cyhoeddwyd
18 munud yn ôl
Am y pumed diwrnod yn olynol, mae diffoddwyr tân yn delio ag achosion o danau gwyllt ym Mhowys, Ceredigion, a rhannau o'r de.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru maen nhw wedi bod yn ymateb i danau ers dydd Sul, gyda'r
digwyddiad mwyaf yng Nghwm Elan ym Mhowys
.
Mae criwiau hefyd yn dal i geisio rheoli tanau ger Cronfa Ddŵr Claerwen.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cau Ystâd Hafod ym Mhont-rhyd-y-groes i ymwelwyr "fel mesur rhagofal" oherwydd y tân yng Nghwm Elan.
Mae rhan o'r A470 hefyd wedi bod ynghau oherwydd tân arall yn Llwyn-onn ym Mannau Brycheiniog.
'Y gwynt yn chwipio'r tân o un lle i'r llall'
Mae'r cyflwynydd Ifan Jones Evans, sy'n byw ym Mhont-rhyd-y-groes ger Cwm Ystwyth yng Ngheredigion, yn dweud bod y "mwg yn flanced dros y pentre'".
Yn siarad ar raglen
Dros Frecwast
fore Iau, dywedodd fod y tân wedi "cilio nôl 'chydig bach o Gwm Ystwyth erbyn hyn ond yn dal i losgi'n gryf iawn, iawn".
"Mae'r gwynt mor gryf heddi' eto ac wedi bod yn chwythu ers 'chydig o ddiwrnode nawr a mae e
just
yn chwipio'r tân o un lle i'r llall," meddai.
"Mae 'na dannau yn digwydd ar yr ucheldir... ond i gael y tannau gwyllt 'ma dros ardal mor eang, mor hwyr yn y flwyddyn, mae'n mynd i gael effaith fawr ar y ffermwyr yma.
"Fydd y porfa ddim yn dod yn ôl cystal ar gyfer y defaid a'r ŵyn, ond wedyn falle fod hwnne hefyd y broblem sydd wedi bod yn digwydd ers degawdau - bod y mynyddoedd ddim yn cael eu pori yn ddigonol, bod ffermwyr ddim yn cael eu gwobrwyo'n ddigon da i warchod y tir ac o ganlyniad ma'r profa'n tyfu'n wyllt."
Ychwanegodd bod "pobl sydd yn crwydro'r mynyddoedd ddim digon ymwybodol pan maen nhw yn cael
barbecues
ac ati".
Ffynhonnell y llun,
Ruth Rees Photography
Disgrifiad o’r llun,
Yr olygfa yng Nghwm Elan nos Fawrth
Mae'r Gwasanaeth Tân yn galw ar i bobl osgoi'r ardaloedd sydd wedi'u heffeithio tra bod y digwyddiadau'n parhau.
Mae yna gyngor hefyd i bobl leol gadw eu ffenestri a'u drysau ynghau os oes mwg trwchus yn yr ardal.
Dywedodd y gwasanaeth tân ac achub bod y perygl o danau gwyllt yn cynyddu yn ystod y gwanwyn a'r haf, ac maen nhw'n annog pobl i ddilyn cynghorion diogelwch er mwyn arbed cefn gwlad a chymunedau rhag effeithiau tanau o'r fath.
Dilynwch Cymru Fyw ar
Facebook
,
dolen allanol
,
X
,
dolen allanol
,
Instagram
,
dolen allanol
neu
TikTok
,
dolen allanol
.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i
cymrufyw@bbc.co.uk
,
dolen allanol
neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap
am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Amaeth
'Blanced o fwg' dros Gwm Ystwyth wedi cyfres o danau gwyllt