Mae'r prif weinidog Eluned Morgan wedi dweud "pleidleisiwch Plaid Cymru" trwy gamgymeriad wrth ymgyrchu ar gyfer etholiad y Senedd, gydag wythnos i fynd cyn diwrnod y bleidlais.
Fe wnaeth arweinydd Llafur Cymru y camgymeriad yn Ynys y Barri ddydd Iau.
Wrth orffen araith i aelodau'r blaid, dywedodd yn y Gymraeg, "Pleidleisiwch Plaid Cymru" cyn cywiro ei hun ar unwaith, "Plaid Lafur".
Cyn hynny, roedd wedi dweud yn Saesneg: "Vote Welsh Labour in the election next week."
Yr wythnos diwethaf dywedodd Ms Morgan mai Plaid Cymru fydd yn ennill etholiad y Senedd yn ei hetholaeth, a'i bod mewn perygl o golli ei sedd.
Mae pleidleiswyr yn ethol 96 o ASau mewn 16 etholaeth yng Nghymru ddydd Iau nesaf, 7 Mai.