Ond er waethaf hynny roedd rhaid i mi edrych ar ôl fy hun a fy nheulu a mi es i weld y meddyg a mi es i weld arbenigwr - dyn efo dim math o allu o bedside manner o gwbl, oedd o'n reit frawychus.
Mi es i i'r clinic a mi ofynais iddo fo, 'ydy o'n serious?'
Mi sbiodd o arno fi, 'well it's bleeding and it's fryable, we'll do staging scans on you as soon as we can. Thank you.'
A mi godais o'r 'stafall a wnai fyth anghofio, oherwydd dwi'n feddyg fy hun a dwi hefyd yn ddarlithydd yn dysgu myfyrwyr meddygol sut i dorri newyddion drwg a sut i gyfathrebu efo cleifion achos cyfathrebu efo cleifion yw'r peth pwysicaf 'dan ni'n medru ddysgu i'n meddygon ni.
A mi es i allan a mi oedd 'na sister, a wnai fyth anghofio - dyma hi'n dweud, 'I think you need a cup of tea'. A dyna fi a hi'n mynd i swyddfa a neud paned. Mi ges i'n hun at ei gilydd ac wedyn wrth gwrs y darn anoddaf.