Roedd 1997 yn flwyddyn etholiadol fawr.

Ar 1 Mai cafodd Tony Blair a Llafur Newydd fuddugoliaeth ysgubol gan ennill 34 o'r 40 sedd yng Nghymru.

Ond mae'n siŵr mai rhaglen y refferendwm ym mis Medi'r flwyddyn honno ydy'r un a fydd yn aros hiraf yn y cof.

Wna i fyth anghofio John Meredith, ein gohebydd yn neuadd y cyfrif, yn datgelu, cyn pawb arall, fod y canlyniad yn Sir Gaerfyrddin yn mynd i olygu mai 'Ie' i ddatganoli a fyddai'n ennill trwy Gymru.

Awr ynghynt, am dri o'r gloch y bore, roedd hi'n ymddangos mai fel arall y byddai hi, a doedd un o'n panelwyr ni ar y noson ddim yn gallu celu ei siom.

Dan deimlad, penderfynodd Dafydd Iwan adael y stiwdio.

Ond pan gyhoeddwyd canlyniad Sir Gaerfyrddin, roedd Dafydd yn ôl yn ei sedd.

Tua'r cyfnod yna y dechreuodd y rhaglen dderbyn e-byst gan wylwyr a gwrandawyr.

Roedd yna sylwadau difyr, cwestiynau treiddgar, ambell englyn, ac o bryd i'w gilydd, cwynion.

Daeth un o'r rai cyntaf o Gaernarfon - 'mae'n warthus nad oes gynnoch chi gamerâu yma!'

Gan fod cymaint o etholaethau, roedd yn rhaid i'r golygyddion ddewis a dethol lle dylid anfon gohebwyr a chamerâu.

Yn yr achos yna, dwi'n tybio eu bod nhw wedi penderfynu na fyddai yna ganlyniad annisgwyl yng nghadarnle Dafydd Wigley.

Gan mai dim ond 16 o etholaethau sydd yna'r tro hwn, bydd gan y rhaglenni radio a theledu ohebwyr ym mhob etholaeth.