Ffynhonnell y llun,
Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,
James Crole yn dathlu bod Casnewydd wedi sgorio
Cyhoeddwyd
14 munud yn ôl
Mae tîm pêl-droed Casnewydd wedi
llwyddo i aros yn Adran Dau
Lloegr a hynny mewn modd dramatig, wrth iddyn nhw sgorio dwy gôl hwyr i guro Barrow.
Gyda 15 munud yn weddill, roedd hi'n edrych yn debygol y byddai Casnewydd yn disgyn o'r gynghrair am y tro cyntaf mewn 13 mlynedd, ond 1-2 oedd y sgôr terfynol.
Tom Davies a Bobby Kamwa wnaeth hawlio'r goliau i Gasnewydd.
Ond nid dathlu oedd cefnogwyr Wrecsam ddydd Sadwrn, ar ôl i'w gêm yn erbyn Middlesbrough orffen yn gyfartal (2-2).
Mae hynny'n golygu eu bod yn colli allan ar gyfle i fod yn chweched yn y Bencampwriaeth ac felly safle yn y gemau ail-gyfle i fynd i gynghrair uchaf Lloegr.
Felly er gwaethaf goliau Josh Windass a Sam Smith, bydd Wrecsam yn aros yn yr un gynghrair at y tymor nesaf.
Ennill oedd hanes Abertawe yn yr un gynghrair, 3-1 yn erbyn Charlton, tra bod Caerdydd wedi colli 5-4 yn erbyn Mansfield yn Adran Un.
Dilynwch Cymru Fyw ar
Facebook
,
dolen allanol
,
X
,
dolen allanol
,
Instagram
,
dolen allanol
neu
TikTok
,
dolen allanol
.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i
cymrufyw@bbc.co.uk
,
dolen allanol
neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap
am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Clwb Pêl-droed Caerdydd
Pêl-droed
Clwb Pêl-droed Casnewydd
Clwb Pêl-droed Wrecsam
Chwaraeon
Clwb Pêl-droed Abertawe
Straeon perthnasol
Chwaraeon y penwythnos: Sut wnaeth timau Cymru?
Cyhoeddwyd
1 awr yn ôl
Pêl-droed: Casnewydd yn osgoi disgyn ond Wrecsam yn colli cyfle