Elusen Awel Aman Tawe (AAT) sy'n gyfrifol am y prosiect - cafodd yr elusen ei sefydlu yn 1998 er mwyn helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn.

Dywedodd Dan McCallum, sydd hefyd yn gyd-sylfaenydd yr elusen, eu bod wedi datblygu "fferm wynt gymunedol" ar Fynydd y Gwrhyd ac mae ganddyn nhw baneli solar yn Hwb y Gors.

"Mae ynni adnewyddol yn ffordd rhad o gynhyrchu trydan," meddai "ond wrth gwrs nawr ma' trydan yn fwy costus na nwy."

"Felly pan ma' bobl yn dewis rhwng gwres a gas neu efallai heat pumps, mae'n ddewis anodd i bobl heb arian o'r llywodraeth i helpu."

Mae Dan McCallum felly'n galw ar lywodraeth nesaf Cymru i "gefnogi cyd-berchnogaeth ffermydd gwynt ac ynni adnewyddol".

"Arian o'n fferm wynt ni sy' wedi talu am y rhan fwyaf o'r gwaith o adnewyddu yr hen ysgol.

"Os wyt ti'n berchen ar yr ased - sef y fferm wynt - ti wedyn yn gallu g'neud pethe' yn dy bentre' a dy gymuned di," meddai.

Ychwanegodd hefyd ei fod yn "gyfle gwych i gadw mwy o arian yng Nghymru trwy 'neud y cooperative share offer i godi arian, fel ry' ni wedi gwneud ar fferm wynt Aman Tawe."