Ffynhonnell y llun,
Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Arron Banks, nad sy'n ymgeisydd yn etholiad Senedd Cymru, ei sylw mewn ymateb i fideo gan Blaid Cymru ar wefan X
Cyhoeddwyd
20 munud yn ôl
Roedd "jôc" ar y cyfryngau cymdeithasol gan aelod blaenllaw o Reform yn hiliol, yn ôl un o ymgeiswyr y blaid yn etholiad Senedd Cymru.
Roedd y sylw, medd James Evans, yn anghywir ac yn hiliol - yr aelod cyntaf o'r blaid i ddefnyddio'r term hwnnw.
Ysgrifennodd Arron Banks "Welsh lad?" ar wefan X, mewn ymateb i fideo gan Blaid Cymru wedi ei gyflwyno gan drefnydd cymunedol du o ardal Tre-biwt yng Nghaerdydd.
Roedd hynny, yn ôl Plaid Cymru, yn dangos bod Mr Banks o'r farn "na all pobl ddu fod yn Gymreig".
Dyw Mr Banks heb ymateb i gais BBC Cymru am sylw, ond mae wedi dweud mai "jôc" oedd y sylw a bod Plaid Cymru "wedi colli eu synnwyr digrifwch".
Dywed Plaid Cymru bod "dim lle i hiliaeth yng Nghymru nac o fewn cymdeithas yn unrhyw le".
'Jôc' oedd sylw 'Welsh lad?' medd aelod Reform wedi honiad o hiliaeth
Cyhoeddwyd
5 o ddyddiau yn ôl
Tro pedol gan ddirprwy arweinydd Reform yng Nghymru ar ymddiheuriad aelod
Cyhoeddwyd
3 o ddyddiau yn ôl
Mae arweinydd Reform yn y DU, Nigel Farage wedi dweud bod y sylw yn "ddi-chwaeth" ac y dylai Mr Banks ymddiheuro.
Ond James Evans yw'r aelod cyntaf o'r blaid i ddatgan bod y sylw yn "hiliol".
Dywedodd ar raglen BBC Politics Wales: "Wrth gwrs, mae'n hiliol. Ni ddylai ddweud y pethau 'ma."
Yr wythnos hon, methodd arweinydd Cymreig Reform, Dan Thomas, â rhoi ateb uniongyrchol i gwestiwn am ei farn ynghylch y sylw.
Dywedodd: "Mae fy Nghymreictod wedi cael ei gwestiynu gan gefnogwyr Plaid Cymru.
"Maen nhw wedi fy ngalw'n
plastic Taffy
oherwydd fy mod, fel mae'n digwydd, yn byw yn Lloegr."
Cliciwch i ehangu
Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn.
Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill
(Yn agor mewn tab porwr newydd)
Dros bwy alla i bleidleisio yn fy ardal i?
Mewn cydweithrediad â'r Comisiwn Etholiadol
Er mwyn rhoi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal chi, mae'r BBC yn cydweithio â'r
Comisiwn Etholiadol
ac yn anfon eich data personol atynt.
Hysbysiad Preifatrwydd Data
(Yn agor mewn tab porwr newydd)
Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod
Dim cysylltiad rhyngrwyd
Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Roedd sylw Arron Banks yn hiliol, ond mae Farage a'i ddyn yng Nghymru, Dan Thomas, yn dal i wrthod dweud hynny.
"Does dim lle i hiliaeth yng Nghymru nac o fewn cymdeithas yn unrhyw le, a byddwn ni'n parhau i'w herio."
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Tro pedol arall gan Reform UK. Dylid poeni dim ynghylch herio'r hiliaeth atgas yma. Ni all Gymru fentro'r rhaniadau cymunedol sy'n dod yn sgil Reform."
Yn ôl llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig maent yn "croesawu'r gydnabyddiaeth yma gan gynrychiolydd Reform bod y sylw yn hiliol".
"Does dim lle i hiliaeth a chasineb yn ein cymdeithas ac mae dyletswydd arnom oll i'w herio pryd bynnag y mae'n codi."
Ar ran y Blaid Werdd, dywedodd llefarydd: "Os yw Arron Banks yn meddwl ei fod yn jôc, mae'n jôc a fyddai ond yn ddoniol i rywun hiliol ac mae'n jôc hiliol. A wnaiff James Evans alw nawr am ei ddiarddel?"
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cael cais am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar
Facebook
,
dolen allanol
,
X
,
dolen allanol
,
Instagram
,
dolen allanol
neu
TikTok
,
dolen allanol
.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i
cymrufyw@bbc.co.uk
,
dolen allanol
neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap
am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Mwy o Etholiad Senedd Cymru 2026
Cyfryngau cymdeithasol
Gwleidyddiaeth
Sylw 'Welsh lad?' Arron Banks yn hiliol, yn ôl ymgeisydd Reform