Oriel luniau
Neidio heibio'r oriel luniau
Disgrifiad o’r llun,
Capten Caernarfon Danny Gossett yn dal Cwpan Cymru gyda'r ymosodwr Darren Thomas i'w chwith a chwaraewyr eraill y tu ôl iddyn nhw
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd baneri enfawr eu gosod ar gastell y dref yn arbennig ar gyfer yr achlysur - dywedodd y rheolwr Richard Davies ei fod yn "swreal" i weld ei hun ar hwn wrth gyrraedd y Maes
Disgrifiad o’r llun,
Darren Thomas oedd ar y faner arall - yr ymosodwr y mae'r cefnogwyr yn ei alw'n Cofi Messi
Disgrifiad o’r llun,
Rhai o'r bobl oedd ar Faes Caernarfon i ddathlu llwyddiant y clwb
Disgrifiad o’r llun,
Clywodd y dorf bod ennill Cwpan Cymru wedi bod yn freuddwyd ers blynyddoedd i'r cefnogwyr
Disgrifiad o’r llun,
Does dim rhaid gofyn pa dîm y mae'r ci yma yn ei gefnogi!
1 o 6
Y llun blaenorol
Y llun nesaf
Sleid
1 o 6
,
Danny Gossett a Darren Thomas gyda Chwpan Cymru ar lwyfan yng nghanol Maes Caernarfon
,
Capten Caernarfon Danny Gossett yn dal Cwpan Cymru gyda'r ymosodwr Darren Thomas i'w chwith a chwaraewyr eraill y tu ôl iddyn nhw
Diwedd yr oriau luniau
Cyhoeddwyd
19 munud yn ôl
Roedd yna ddathlu yng nghanol Caernarfon ddydd Sul yn dilyn llwyddiannau diweddar clwb pêl-droed y dref.
Fis diwethaf
fe gipiodd y Cofis Gwpan Cymru am y tro cyntaf yn hanes y clwb
, gan sicrhau lle yng Nghyngres Europa y tymor nesaf.
Roedd cannoedd o bobl ar Faes Caernarfon brynhawn Sul wrth i chwaraewyr arddangos y tlws, ond mae timau eraill y clwb hefyd wedi helpu sicrhau bod tymor 2025-2026 yn un cofiadwy.
Enillodd y tîm Dan-19 Gwpan Ieuenctid Cymru ddechrau Ebrill a chyn diwedd y mis fe gafodd y tîm merched Dan-17 eu coroni'n bencampwyr y North Wales Girls Football League.
Disgrifiad o’r llun,
Rhai o aelodau'r tîm merched Dan-17 gyda'u tlws am ennill y bencampwriaeth
Gan ddiolch i'r dorf am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd, dywedodd cadeirydd y clwb Paul Evans bod ennill Cwpan Cymru wedi bod "yn freuddwyd" yr oedd llawer wedi amau na fyddai byth yn cael ei gwireddu.
"Mae hyn yn meddwl y byd i ni fel clwb," dywedodd wrth BBC Cymru.
"'Dan ni 'rioed wedi curo'r cwpan 'ma yn ein hanes felly fedrwch chi feddwl faint o bwysig a faint o sbesial ydi o."
Yr hyn sy'n bwysig wrth symud ymlaen, meddai, yw creu "clwb fedar Caernarfon a'r ardal fod yn falch ohono".
"Dyna pam 'dan ni'n 'neud o i gyd. Os fedran ni fod yn llwyddiannus [hefyd] - wel, ma' hynna'n helpu, yn tydi."
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cerflun o Lloyd George fel petai hefyd yn dathlu llwyddiant y clwb pêl-droed!
Mae llwyddiant y tîm yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru'n golygu bod y Caneris yn paratoi ar gyfer ymgyrch Ewropeaidd am yr eildro yn eu hanes.
Y tro cyntaf, yn 2024, fe aethon nhw allan yn ail rownd ragbrofol Cynghres Uefa ar ôl cael eu trechu
gan un o dimau mwyaf Gwlad Pwyl, Legia Warsaw
.
"Ma' mynd i Ewrop yn golygu lot fawr i ni yn ariannol, ond hefyd y ffaith bod ni 'n ca'l chwara' yn Ewrop am yr ail waith mewn tair blynedd," dywedodd Paul Evans.
Bu'n rhaid iddyn nhw chwarae eu gemau cartref yn y gystadleuaeth y tro hwnnw yn Stadiwm Nantporth, Bangor gan fod eu maes eu hunain, Yr Oval, ddim yn cyrraedd gofynion Uefa.
Mae gwaith gwerth £1m yn mynd rhagddo ers Tachwedd y llynedd i uwchraddio'r safle, sy'n golygu y bydd modd chwarae gemau Ewropeaidd yng Nghaernarfon yn y dyfodol, ac fe fydd y gêm gyntaf un yn Yr Oval, medd Paul Evans, yn "sbesial".
Cais CPD Caernarfon i ddyblu nifer y seddi yn yr Oval
Cyhoeddwyd
14 Ionawr
'Clwb pêl-droed Cymreiciaf y byd'?: Ail-frandio CPD Caernarfon
Cyhoeddwyd
21 Chwefror
A welwn ni'r Haaland neu Mbappé nesaf yng Nghaernarfon eleni?
Cyhoeddwyd
6 Ionawr
Dilynwch Cymru Fyw ar
Facebook
,
dolen allanol
,
X
,
dolen allanol
,
Instagram
,
dolen allanol
neu
TikTok
,
dolen allanol
.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i
cymrufyw@bbc.co.uk
,
dolen allanol
neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap
am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Pêl-droed
Chwaraeon
Caernarfon
Dathlu llwyddiant clwb 'fedar Caernarfon fod yn falch ohono'