Er nad oedd Ant erioed wedi ystyried sgwennu hunangofiant, pan wnaeth y penderfyniad roedd yn rhaid iddo gofnodi'r "da a'r drwg gyda'i gilydd."

Sgwrs dros ddiod gyda'r awdur John Gower mewn tafarn yng Nghaernarfon wnaeth ysgogi Ant i fynd amdani, ac yn sydyn fe drodd yr adolygydd llyfrau fewn i awdur ei hun.

"Nes i benderfynu os dwi am sgwennu hunangofiant, does dim pwynt i gadw pethau yn ôl, does dim pwynt i mi guddio pethau. Dwi'n mynd i sgwennu pob dim lawr felly. Roedd 'na rannau o'r gyfrol oedd yn anoddach i sgwennu nag eraill," meddai.

Wrth ysgrifennu, roedd Ant yn teimlo rhyddhad a gweld y broses yn un "theraputic" o ran cael popeth "allan o'i system."

"Unwaith yr oedd o allan mewn du a gwyn ro'n i'n teimlo'n brafiach ac yn meddwl, 'reit, dwi wedi cael y teimladau 'ma allan rŵan er bod yr atgofion dal yno'."

Mae llawer iawn o gariad a gobaith yn y gyfrol pan mae'n trafod ei fam, ond mae rhannau hefyd sy'n disgrifio'r berthynas anodd oedd gan Ant gyda'i dad.

Mae Ant yn disgrifio ei berthynas gyda'i dad fel un 'rhwystredig'. Fe newidiodd Ant ei enw er mwyn sicrhau nad oedd yn rhannu'r un enw a'i dad, ond mae'n pwysleisio nad yw yn ei gasáu.

"Pan mae'n dod at drafod fy nhad, roedd hynny yn anodd achos mae o dal yn fyw. Dwi ddim yn ei gasáu o gwbl a hynny'n bennaf oherwydd roedd Mam yn ei garu. Felly oedd Mam yn caru rhywun, fedrwn i ddim eu casáu nhw," meddai.