Mewn ymateb i'r ffigyrau dywedodd Plaid Cymru: "Does dim byd yn dangos record Llafur yn y llywodraeth yn well na'r ffaith bod 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru ar restr aros y GIG. Mae miloedd yn dal i aros mwy na 2 flynedd am driniaeth.

Os cawn nhw eu hethol, mae'r blaid yn addo sefydlu 10 canolfan fyddai'n caniatáu i bobl gael llawdriniaethau yn gyflymach.

Dywedodd y Ceidwadwyr bod y ffigyrau diweddaraf "yn dangos yn glir record Llafur a Phlaid dros y 27 mlynedd diwethaf: targedau wedi'u methu, addewidion wedi'u torri, a chleifion yn talu'r pris".

Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n datgan "argyfwng iechyd" cenedlaethol er mwyn blaenoriaethu adnoddau er mwyn clirio'r ôl-groniad mewn rhestrau aros erbyn 2030.

Dywedodd y Blaid Werdd bod y ffigyrau yn "dangos system mewn argyfwng."

Maen nhw'n dweud y bydden nhw'n canolbwyntio mwy ar atal ac ar drin yn gynnar, tra'n gweithredu nawr i leihau rhestrau aros a lleihau'r pwysau ar adrannau brys.

Dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, bod "rhestrau aros wedi gostwng am naw mis yn olynol, sy'n record".

Mae'r amser cyfartalog am driniaeth wedi disgyn o 23 wythnos i 16.7 wythnos ers iddi gael ei hethol yn Brif Weinidog, meddai, gan ychwanegu mai dim ond Llafur Cymru sydd â chynllun i barhau'r gostyngiad.

Dywedodd Claire Archibald o'r blaid Reform bod y GIG yng Nghymru "wedi torri ar ôl 27 mlynedd o fethiant o dan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru".

Bydd Reform yn symud adnoddau i ffwrdd o fiwrocratiaeth a'n blaenoriaethu gofal sylfaenol, meddai, gan "ddod a dibyniaeth ar staff asiantaethau costus i ben" a "sicrhau bod rheolwyr sy'n methu yn cael eu dal yn atebol".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais am sylw.